Pwyllgor Materion Cenedlaethol
Gweithio Gyda’n Gilydd Am Gymru Ddiogelach
Fe’n sefydlwyd i wella gweithio’n gydweithredol, darparu gwasanaethau a gwella gwasanaethau cynhaliol ymhellach.
Cwrdd â’r heriau a wynebir gan y sector cyhoeddus megis pwysau economaidd, cyllidebau sy’n crebachu a disgwyliadau cynyddol gan y cyhoedd
Mae’r Awdurdodau Tân ac Achub yn ymrwymedig i gyflawni nodau Llywodraeth Cymru a byddant yn defnyddio’r PMC i ddarparu ar amcanion a fanylir o fewn polisïau a rhaglenni strategol Llywodraeth Cymru
Cenhadaeth
Heb beryglu ymreolaeth a hunaniaeth leol, optimeiddio gweithio’n gydweithredol i adnabod arbedion, arbedion effeithlonrwydd a buddion economaidd, gan gadw cymunedau Cymru’n ddiogel a’r Tri Awdurdod Tân ac Achub Cymreig (ATA) yn alluog i gwrdd â’r heriau economaidd pennaf.
Ni yw
Mae’r Pwyllgor yn cynnwys Aelodau Etholedig a Swyddogion o bob un o’r Awdurdodau Tân ac Achub o fewn Cymru. Trefniant gwirfoddol strwythuredig ydym yn hytrach na’n seiliedig ar ddeddfwriaeth o dan y Drefn Gyfunol.
Ein nod
I ddatblygu a gweithredu gwell trefniadau ar gyfer darparu gweithio’n gydweithredol yn strategol a chydlynol lle gwireddir gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth.
Darparu canlyniadau Cenedlaethol heb beryglu annibyniaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub cyfansoddol i wneud penderfyniadau lleol i gwrdd ag anghenion lleol.
Mae 11 ffrwd waith cydweithredol:
- PARHAD BUSNE
- RHEOLI
- LLEIHAU RISG CYMUNEDOL
- GWASANAETHAU CYFFREDIN AC ARBENNIG
- FFLYD A THRAFNIDIAETH
- IECHYD A DIOGELWCH
- ADNODDAU DYNOL
- CYDLWYFANNAU TGCh
- GWEITHREDIADAU
- CAFFAEL
- HYFFORDDI A DATBLYGU
“Mae’r rhain yn adegau heriol ond cyffrous iawn. Rydym yn benderfynol o gydweithio a sefydlu ymdrech tîm wrth yrru agenda gwelliant gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ei blaen. Ein blaenoriaeth yw gwella gweithio’n gydweithredol ymhellach, darparu gwasanaethau a gwella gwasanaethau cynhaliol er lles Cymru.” Cyng. Tudor Davies PMC Cadeirydd
Gwyliwch y fideo o’n taith hyd yn hyn
E-bost/cysylltwch â ni/gofynnwch gwestiwn
Tudalen Mewngofnodi Aelodau a Staff