Bydd y prosiect hwn yn uno dau dîm canolfan reoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), a bydd y tîm a ffurfir o’r newydd yn symud i ganolfan reoli Heddlu De Cymru (HDC) ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a elwir yn Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd y prosiect hwn yn golygu bydd gwell lefel o wasanaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer y cyhoedd, a bydd yn arwain at arbedion ariannol o dros £1m y flwyddyn. Bwriedir bydd y tîm a ffurfir o’r newydd yn dechrau gweithredu erbyn Ebrill 2016. Mae cyfeiriad e-bost pwrpasol wedi cael ei greu ar gyfer y prosiect. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu os hoffech gysylltu â ni am y prosiect, yna anfonwch e-bost i
psc-fireproject@mawwfire.gov.uk os gwelwch yn dda.