Bwriad y ffrwd waith hon yw alinio ein harferion a gweithdrefnau Hyfforddi a Datblygu ar draws ein tri Gwasanaeth Tân ac Achub lle bynnag fo’n bosib.Gwireddu’r buddion a derddir o weithio’n gydweithredol a’i wir botensial i ddyrchafu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd Hyfforddi a Datblygu
Drwy ddarparu swyddogaethau Hyfforddi a Datblygu sy’n sicrhau fod ein gweithwyr yn ddiogel a chymwys i berfformio’u rolau.
Cyflawnir hyn fel rhan o Fframwaith Cymhwyster Gweithredol a wireddir drwy law Fframweithiau Asesu, Rhaglenni Cyfarwyddyd Gweithredol Cenedlaethol a Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Meysydd canolbwynt y ffrwd hon yw:
- Cyrsiau Hyfforddi Cychwynnol Ar- alwad
- Adnabod arferion gorau ac alinio anghenion cyrsiau hyfforddi cychwynnol ar draws pob Gwasanaeth.
- Hyfforddiant Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd (GTFf)
- Safoni'r dull i hyfforddiant GTFf ar draws pob Gwasanaeth Tân ac Achub
- Cyfarwyddyd Offer Anadlu (OA)
- Gweithredu Cyfarwyddyd Gweithredol Cenedlaethol OA
- Hyfforddiant i Yrwyr
- Safoni'r dull i hyfforddi gyrwyr ar draws bob Gwasanaeth Tân ac Achub
- Datblygu Rheoli Digwyddiadau
- Yn unol â chyflwyno'r Cyfarwyddyd Gweithredol Rheoli Digwyddiadau Cenedlaethol, i ddarparu dull safonol i ddatblygu ac amodi Penaethiaid Digwyddiadau
- Archwiliadau Technegol
- Sefydlu Bwrdd Archwilio Technegol Cymru Gyfan